Ni chollwyd gwaed y groes

(Dibenion Gwaed y Groes)
  Ni chollwyd gwaed y groes
    Erioed am ddim i'r llawr;
  Ni phrofwyd angeu loes
    Heb rhyw ddybenion mawr!
A dyna oedd ei amcan Ef -
Ein dwyn o'r byd
      i deyrnas nef.

  Wel bellach tyr'd yn mlaen,
    Nac ofna f'enaid mwy;
  Llai grym sy'n uffern dân
    Na dwyfol farwol glwy';
Mae'r gwaed, mae'r gwaed dywalltodd Ef
Yn ucha'i bris o fewn y nef.

  Mae'r orsedd wen yn rhydd,
    Aeth magdalen yn mlaen;
  Manasse hefyd sydd
    Yn seinio'r nefol gân:
Mi glywa'r sŵn, sŵn peraidd yw,
Am ddwyfol, nefol waed fy Nuw.

  Dystewch, elynion mwy,
    Rhowch le tua phen fy nhaith;
  Chwi roisoch i mi glwy'
    Disymwth lawer gwaith!
Y' mlaen, y' mlaen, mae'm trysor drud,
Tu hwnt i derfyn eitha'r byd.

              - - - - -

  Ni chollwyd gwaed y groes
    Erioed am ddim i'r llawr;
  Ni phrofwyd angeu loes
    Heb rhyw ddybenion mawr!
A dyna oedd ei amcan Ef -
Ein dwyn o'r byd
      i deyrnas nef.

  N'ād imi garu mwy
    Y pechod drwg ei ryw -
  Y pechod roddodd glwy'
    I 'Mhrynwr, O fy Nuw!
N'ād imi garu dim ond Ti
O'r ddae'r i
      eitha'r nefoedd fry.

            - - - - -

Ni chollwyd gwaed y groes
    Erioed am ddim i'r llawr;
  'Ddyoddefwyd angeu loes
    Heb rhyw ddybenion mawr:
A dyna oedd ei amcan Ef,
Ein dwyn o'r byd
      i deyrnas nef.

  Mae defnyn bach o'i waed,
    Yn drymach yn y nef,
  Na'r pechod mwya ' gaed
    A'i holl euogrwydd ef;
Gwrandewir llais y dwyfol glwy,
O flaen eu damniol floeddiad hwy.

  Noddfa pechadur trist,
    Dan bob drylliedig friw,
  A phwys euogrwydd llym,
    Yn unig yw fy Nuw;
'Does enw i'w gael, o dan y nef,
Yn unig ond ei enw Ef.
William Williams 1717-91

Tonau [666688]:
    Alexandria (alaw Almaenaidd)
    Alun (J A Lloyd 1815-74)
    Beverley (Salmydd 1791)
    Gwladus (alaw Gymreig)

gwelir:
    Distewch elynion mwy
    Dysgleiria fore wawr
    Fy Iesu yw fy Nuw
    Mae dafn bach o waed
    Mae lluoedd maith yn mlaen
    Ni phery ddim yn hir
    O nefol addfwyn Oen
    Wel ymgysura'n awr

(The Purposes of the Blood of the Cross)
  The blood of the cross was not shed
    Ever for nothing to the ground;
  The throes of death were not experienced
    Without any great purposes!
And that was His intention -
To bring us from the world
      to the kingdom of heaven.

  See, henceforth come onward,
    Nor fear any more, my soul,
  Less is the force in hell fire
    Than a divine mortal wound;
The blood, the blood that He shed
Is of higher worth within heaven.

  The white throne is accessible,
    Magdalen went forwards;
  Manasseh also is
    Sounding the heavenly song:
I hear the sound, a sweet sound it is,
About the divine, heavenly blood of my God.

  Be silent, enemies, henceforth,
    Give way towards my journey's end;
  Ye gave me a wound
    Suddenly many times!
Onward, onward, my dear treasure is
Beyond the furthest border of the world.

                 - - - - -

  The blood of the cross was never shed
    For nothing to the ground;
  The throes of death was not experienced
    Without any kind of great purpose!
And that was His aim -
To lead us from the world
      to the kingdom of heaven.

  Do not let me love any more
    The sin of an evil kind -
  The sin which gave a wound
    To my Redeemer, O my God!
Do not let me love anything but Thee
From the earth
      to the extremity of heaven above.

                 - - - - -

  The blood of the cross was never shed
    For nothing to the ground;
  The throes of death were not suffered
    Without some great purpose:
And that was his aim,
To lead us from the world
      to the kingdom of heaven.

  A small drop of his blood is
    Weightier in heaven,
  Than the greatest sin found
    And all its guilt;
To be heard is the divine wound's voice,
Before their condemnatory shout.
  
  The refuge of a sad sinner,
    Under every broken bruise,
  And the weight of keen guilt,
    Is my God alone;
No name is to be got, under heaven,
But his name alone.
tr. 2014,23 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~